trampolines, go carts and much more in north wales

Dosbarthiad am ddim ar gyfer BOB cynnyrch ymhob cyfeiriad yn yr Deurnias Unedig!

suppliers of trampolines, go carts and a wide range of activity equipment
English? siopbasged desg dalu Edrychwch ar ein cynnygion arbennig yr wythnos yma! e&r activity equipment, north wales

Cwestiynau Cyffredin

Trampolinau

 

C A yw trampolinau rhad mor ddiogel â rhai drud?
C Beth yw’r gwahaniaeth rhwng trampolîn crwn a thrampolîn petryal?
C A yw trampolinau yn beryglus?
C Pam bod cymaint o wahaniaeth ym mhrisiau trampolinau o’r un maint?
C A fydd modd i mi gael rhannau newydd i’m trampolîn?
C A fydd modd i mi adael fy nhrampolîn yn yr awyr agored trwy gydol y flwyddyn?
C A fydd modd i mi osod y trampolîn ar dir sydd ag ychydig o rediad iddo?
C A fydd angen gorchudd tywydd i fy nhrampolîn?

 

“Hout-land” (Fframiau Dringo Pren)

C A oes angen gosod fy set chwarae ar dir gwastad?
C Faint o le y byddaf ei angen?
C A fydd modd i mi wneud newidiadau i gynllun fy set chwarae?
C Pam bod y pren yn cracio?
C A fydd y pren yn pydru?
C A yw’r pren yn dod o darddiad ecolegol iach?

C A yw trampolinau rhad mor ddiogel â rhai drud?

A Na, nid ydynt mor ddiogel â rhai drytach. Mae trampolinau rhad yn defnyddio sbrings llai ac fel arfer mae llai ohonynt. Er mwyn gallu dal pwysau’r neidiwr, mae’r sbrings hyn wedi’u torchi’n dynnach. Golyga hyn fod y man neidio yn llawer tynnach ac nid yw’n rhoi gymaint â thrampolîn sydd wedi ei ddyfeisio gyda sbrings mwy a mwy ohonynt. Yn ogystal, mae sbrings hirach yn golygu bod y ffram glustog yn lletach ac felly mae’r man â chlustog o amgylch ochr y gwely yn fwy gan gadw’r neidiwr ychydig yn bellach o ochr y trampolîn.

top

C Beth yw’r gwahaniaeth rhwng trampolîn crwn a thrampolîn petryal?

A Cafodd tramplinau eu dyfeisio a’u hadeiladu’n wreiddiol ar gyfer darparu hyfforddiant i blymwyr ucher a mabolgampwyr. Roedd perfformiad da yn hanfodol bwysig. Gan fod yr holl sbrings mewn tramplîn petryal yn gweithio ar raddfa wahanol mae’r ymateb yn gyflym a phwerus. Adeiladwyd trampolinau crwn yn bennaf ar gyfer difyrrwch ac felly’r prif ystyriaethau cynllunio yw diogelwch a gwerth yn hytrach na pherfformiad. Yr hyn a gewch gyda thrampolîn crwn yw arwynebedd trampolîn mawr am eich arian. Yr hyn nad ydych yn ei gael yw gwir berfformiad!

top

C A yw trampolinau yn beryglus?

A Nac ydynt, ond os nad ydynt yn cael eu defnyddio’n iawn, gall damweiniau ddigwydd. Mae’r rhan fwyaf o drampolinau’n cynnwys canllaw i ddefnyddwyr a rhybuddion wedi’u hargraffu. Os ydych yn dilyn y canllawiau hyn mae’n anhebygol iawn y byddwch yn dod ar draws unrhyw broblemau.

top

C Pam bod cymaint o wahaniaeth ym mhrisiau trampolinau o’r un maint?

A Mae’r trampolinau drytach yn defnyddio mwy o ddefnyddiau ac mae llawer o’r defnyddiau hynny hefyd o ansawdd gwell. Tra mai’r unig ddefnydd sy’n gyffredin rhwng y mwyafrif o drampolinau yw’r defnydd polypropylen a wneir yn yr UDA ar gyfer y gwely, mae’r modd y caiff y gwlâu eu gwnïo, y marciau canol, y math o angor a ddefnyddir ar gyfer y sbrings, y defnydd cynorthwyol a’r strapiau webin yn amrywio. Mae clustogau’r ffrâm yn amrywio’n aruthrol yn eu lled, tewder, y deunyddiau a ddefnyddir a’r modd y caent eu gosod. Mae’r trampolinau rhatach wedi eu gwasgu’n dynn i un carton gorlwythog mawr, tra bod y trampolinau drytach wedi eu pacio i ddau neu fwy o gartonau ysgafnach. Yn y pen draw, yr ydych yn derbyn yr hyn yr ydych yn ei dalu amdano, sy’n wir am bron bopeth.

top

C A fydd modd i mi gael rhannau newydd i’m trampolîn?

A Bydd. Mae rhannau newydd ar gael bron o hyd, ac fe ellir eu cael ar gyfer trampolinau gan wneuthurwyr eraill, felly holwch ac fe wnewn ein gorau i’ch helpu chi.

top

C A fydd modd i mi adael fy nhrampolîn yn yr awyr agored trwy gydol y flwyddyn?

A Bydd. Tra bydd rhai darnau sydd wedi eu platio â sinc ar yr amrediad Spring Time rhad yn rhydu ymhen amser, fe wnânt yn iawn am nifer o flynyddoedd. Fel arall, mae pob gwaith metel wedi ei alfaneiddio neu wedi ei drin hyd yn oed yn well na hynny, ac mae pob defnydd yn sefydlog lle mae uwchfioled (UV) yn y cwestiwn. Nid yw’r celloedd sbwng yng nghlustog y ffrâm yn amsugno dŵr. Tra byddai rhai darnau ar y trampolîn Performance yn casglu dŵr, maent wedi eu galfaneiddio y tu mewn a’r tu allan. Mae’r gwlâu i gyd yn draenio eu hunain ac yn sychu’n sydyn. Dylid cael gwared ag eira a rhew cyn neidio arnynt. Gall trampolinau gael eu chwythu i ffwrdd, yn enwedig y rhai sydd â rhwyd wedi ei osod o amgylch y trampolîn, felly dylid ystyried o ddifrif y posibilrwydd o brynu’r pecyn rhwymo’r trampolîn i’r ddaear.

top

C A fydd modd i mi osod y trampolîn ar dir sydd ag ychydig o rediad iddo?

A Bydd, cyn belled â bod y rhediad yn llai nag 1 mewn 7 neu 15%. Gellir gosod sylfeini’r coesau sydd ar allt i orwedd mewn ffosydd a gellir gosod y blociau sydd ar i lawr ar flociau pren. Gellir cyflenwi blociau pren rhiciog os nad ydych yn gallu cael gafael ar rai eich hunain.

top

C A fydd angen gorchudd tywydd i fy nhrampolîn? l my trampoline need a weather cover?

A Na, nid o reidrwydd, er efallai y byddwch angen ei ystyried am y rhesymau canlynol:

  • Er mwyn cadw’r gwely a’r clustogau’n lân o faw adar, sug coed, a phryfetach.
  • Er mwyn cadw’r gwely’n sych ac yn barod ar gyfer ei ddefnyddio, hyd yn oed ar ddiwrnod llaith neu’n syth ar ôl glaw trwm.
  • Er mwyn rhoi neges glir i’r teulu, ffrindiau ac eraill bod y trampolîm wedi ‘ei roi o’r neilltu’ ac ‘nid i’w ddefnyddio’.

top

“Hout-land” (Fframiau Dringo Pren)

C A oes angen gosod fy set chwarae ar dir gwastad?

A Oes. Oni bai y nodir yn wahanol, mae pob offer “hout-land” wedi eu cynllunio ar gyfer eu gosod a’u defnyddio ar laswellt gwastad yn unig.

top

C Faint o le y byddaf ei angen?

A Rhaid i chi wneud yn siwr fod gennych ddigon o le o bobtu i’r offer. Ar gyfer siglen byddwch angen o leiaf 3m (10tr) o le i siglo o bobtu i’r rheilen uchaf.

top

C A fydd modd i mi wneud newidiadau i gynllun fy set chwarae?

A Mae offer chwarae “hout-land” wedi ei gynllunio’n fodiwlaidd sy’n eich galluogi i gael cyfuniadau dirifedi. Mae’r offer a werthir ar y safle hwn yn gwneud defnydd o’r cynlluniau sylfaenol poblogaidd, ond mae rhwydd hynt i chi gysylltu â ni i drafod eich opsiynau.

top

C Pam bod y pren yn cracio?

A Gan mai cynnyrch naturiol yw pren, caiff y tywydd effaith arno. Mewn tywydd heulog a chynnes, bydd y pren yn mynd yn llai ac mewn amodau gwlyb a llaith bydd y pren yn chwyddo. Bydd y ‘symudiad’ hwn yn golygu y bydd y pren yn cracio ac yn hollti ychydig. Er y gall edrych yn beryg, mae hyn yn berffaith naturiol! Gall y craciau hyn redeg ar hyd y pren i gyd a gallent fod mor llydan â 3% o gylchedd y polyn. Weithiau gall y craciau hyn fynd bron cyn belled â chanol dyfnder y pren. Rhoddwyd ystyriaeth i’r craciau wrth amcangyfrif cryfder yr offer, ac yn gyffredinol maent ar eu mwyaf yn ystod y flwyddyn gyntaf allan yn yr awyr agored.

top

C A fydd y pren yn pydru?

A Mae pob darn o bren a gaiff ei ddefnyddio i greu’r offer “hout-land” wedi ei drin yn erbyn pla pryfed ac fel nad yw’n pydru. Mae’r pren wedi ei dorri, ei lifo a’i ddrilio cyn mynd i’r odyn ar gyfer y driniaeth wasgedd. Mae’r broses drwytho dan wasgedd gwactod yn amsguno’r cyffeithyddion arbennig yn ddwfn i mewn i ffeibrau’r pren. Mae’r sylwedd cyffeithiol ffyngladdol a ddefnyddir ar gyfer y trwytho yn ddiwenwyn, ac heb arsenig ac yn cael ei ddefnyddio’n gyffredinol eang ar gyfer offer parciau chwarae pren trefol i blant.

top

C A yw’r pren yn dod o darddiad ecolegol iach?

A Ydyw, mae’r pren i gyd yn cael ei cynhyrchu drwy ddefnyddio coedwigoedd sydd wedi eu rheoli’n ofalus. Defnyddir coed pren meddal gan eu bod yn darparu adnodd llawer iawn fwy adnewyddadwy na phren caled o goed aeddfed. Wrth i goed gael eu torri gwneir iawn am y golled trwy ailblanu, diolch i reolaeth ofalus a chaeth o’r coedwigoedd. Mae’r broses o gynhyrchu pren wedi ei dorri’n grwn yn fwy effeithlon ac yn llai gwastraffus na’r broses o gynhyrchu pren wedi ei dorri’n sgwâr.

top

Os gennych chi unrhyw gwestiynau neu ymholiad cysylltwch a ni am rhif ffon 077 108 58297
neu gadael eich neges yma. Diolch yn fawr.
visit our playarea and try before you buy
visit our playarea and try before you buy Hawlfraint E&R Activity Equipment
Dyluniwyd y wefan gan DoodleIT
visit our playarea and try before you buy